Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
2 years ago

Datrysiadau Cynaliadwy Pecyn Athrawon

  • Text
  • Crest
  • Syniadau
  • Diwydiant
  • Gweithgaredd
  • Prosiect
  • Dylai
  • Darganfod
  • Gyfer
  • Cynaliadwy
  • Myfyrwyr
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Trosolwg Datblygwyd

Trosolwg Datblygwyd Datrysiadau Cynaliadwy yn benodol i fodloni gofynion Gwobr Darganfod CREST. Trwy ymgymryd â'r gweithgaredd a chwblhau Pasbortau Darganfod CREST myfyriol, dylai eich holl fyfyrwyr allu ennill Gwobr CREST. Gellir cyflwyno'r adnodd hwn yn yr ysgol yn ystod gwersi, fel gweithgaredd allgyrsiol neu fel gweithgaredd menter. Gellir cwblhau'r prosiect dros bum gwers neu fel un digwyddiad. Y sialens Diwrnod gweithgaredd tîm yw Datrysiadau Cynaliadwy gyda'r nod o annog pob tîm i ddylunio a chreu cysyniad busnes cychwynnol cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'u cymuned. Dylai eu syniad busnes ganolbwyntio ar ddarparu cynnyrch neu wasanaeth sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, gan ystyried effeithlonrwydd ynni, cadwraeth adnoddau, cynhyrchu gwastraff isel a defnyddio deunyddiau diogel sy'n gydnaws â'r amgylchedd. Bydd myfyrwyr yn: • Archwilio’r berthynas rhwng diwydiannu a chynaliadwyedd • Ymchwilio i fusnesau cynaliadwy • Datblygu cysyniad ar gyfer eu cynnyrch neu wasanaeth cynaliadwy eu hunain. Amcanion dysgu • Myfyrio ar y cydbwysedd o ddiwallu anghenion economaidd a chymdeithasol trwy ddatblygiad a thwf economaidd, wrth ddiogelu'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. • Archwilio sut mae diwydiannu yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o sicrhau datblygiad a thwf economaidd, gan arwain at greu diwydiannau, allbwn gweithgynhyrchu, creu swyddi a refeniw'r llywodraeth. • Deall effeithiau negyddol diwydiannu ar yr amgylchedd, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd, llygredd i aer, dŵr a phridd, a difodiant rhywogaethau. • Archwilio sut mae mwy o fusnesau yn blaenoriaethu cynaliadwyedd o ran effeithlonrwydd ynni, cadwraeth adnoddau, cynhyrchu gwastraff isel, a defnyddio deunyddiau diogel sy'n gydnaws â'r amgylchedd. • Deall proses Meddwl Dylunio RAPID a chymhwyso hyn mewn perthynas â syniad busnes cynaliadwy. • Defnyddio offer dylunio fel dadansoddi cylch bywyd a ‘personas’ i feddwl yn feirniadol am syniadau. 4

Deunyddiau Gweithgaredd Deunyddiau Cyflwyniad ❏ ❏ Pasbort Darganfod (1 i bob myfyriwr) Pecyn myfyrwyr (1 i bob myfyriwr) Gweithgaredd cychwynol ❏ ❏ Copïau ychwanegol o gardiau llinell amser Diwydiant yng Nghymru (yn y Canllaw i Fyfyrwyr) Sisyrnau Taflu syniadau ❏ ❏ Mynediad i gyfrifiaduron ar gyfer ymchwil ar y we Deunyddiau ysgrifennu Her Cynllunio ❏ ❏ Mynediad i gyfrifiaduron ar gyfer ymchwil ar y we Amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer dylunio a phrototeipio e.e. ○ Sisyrnau ○ Pinnau a phensiliau ○ Prennau Mesur ○ Ffyn glud, tâp selo a llinyn ○ Papur mawr a nodiadau Post-it ○ Cerdyn ○ Bwrdd ewyn / Ewyn polystyren ○ Gwifrau a gwellt 5

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association