Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
2 years ago

Datrysiadau Cynaliadwy Pecyn Athrawon

  • Text
  • Crest
  • Syniadau
  • Diwydiant
  • Gweithgaredd
  • Prosiect
  • Dylai
  • Darganfod
  • Gyfer
  • Cynaliadwy
  • Myfyrwyr
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Canllaw cam wrth gam 5.

Canllaw cam wrth gam 5. ‍Sleid 7: Rhannwch yn dimau o 5–7. Dylai fod gan bob aelod o'r tîm rôl benodol i'w chwarae (fel y disgrifir yn y pecyn myfyrwyr). ○ ○ ○ ○ ○ ○ Rheolwr Prosiect x1 Rheolwr Cyfathrebu x1 Arweinydd Marchnata x1 Rheolwr Ymchwil x1 Peiriannydd (1 neu 2 yn dibynnu ar faint y tîm) Arweinydd Dylunio (1 neu 2 yn dibynnu ar faint y tîm) Gweithgaredd cychwynnol: Diwydiant yng Nghymru - her llinell amser (30 munud) 1. ‍Sleid 8: Gofynnwch i'r myfyrwyr (yn eu timau) gwblhau’r her llinell amser - Diwydiant yng Nghymru - yn y pecyn myfyrwyr, a ddefnyddir yma fel astudiaeth achos. Yn y gweithgaredd hwn, mae myfyrwyr yn gosod cardiau sy'n manylu ar ddigwyddiadau allweddol ar linell amser er mwyn darganfod sut mae diwydiant Cymru wedi newid dros y 200 mlynedd diwethaf.‍ 2. ‍Sleidiau 9-10: Datgelu a thrafod yr atebion. Hwyluswch drafodaeth grŵp cyfan ar y llinell amser, gan nodi un neu ddau o bwyntiau allweddol o bob oes, gan ganolbwyntio'n benodol ar y newidiadau o ddiwydiant trwm i ymchwil TG ac amgylcheddol. Beth oedd yn syndod? Pam? Annogwch y myfyrwyr i drafod y cytundebau rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd a lle mae'r rhain o fewn y llinell amser. Taflu syniadau (30 mun) 1. ‍Sleid 11: Soniwch am yr enghreifftiau o gynhyrchion a busnesau cynaliadwy a ddangosir. Gall myfyrwyr hefyd gyfeirio at y tudalennau Ysbrydoliaeth yn y Canllaw i Fyfyrwyr. 2. ‍Sleid 12: Ewch trwy'r broses Meddylfryd Dylunio 5D 3. Dylai timau ddilyn dau gam cyntaf y broses Meddylfryd Dylunio 5D i nodi'r broblem / problemau y maent yn gobeithio eu datrys trwy eu busnes cynaliadwy, cynnal ymchwil a dechrau taflu syniadau ar gyfer eu datrysiad. 4. Tua diwedd yr amser a neilltuwyd ar gyfer taflu syniadau, gofynnwch i grwpiau ddewis un syniad yr hoffent ganolbwyntio arno. 8

Canllaw cam wrth gam Ymchwil a dylunio (30 munud) Nawr mae angen i fyfyrwyr droi'r meddyliau a'r syniadau hynny yn gynnyrch neu wasanaeth go iawn. Efallai bod eu syniad yn ddyfais hollol newydd, neu efallai y byddan nhw'n dewis edrych ar ddyfais sy'n bodoli a'i gwella. Gan ddefnyddio'r adnoddau yn y Canllaw i Fyfyrwyr, dylai timau ddechrau datblygu'r syniad o'u dewis ymhellach. 1. ‍Sleid 13: Esboniwch mai un o'r pethau cyntaf i feddwl amdano wrth ddylunio cynnyrch neu wasanaeth newydd yw pwy yw'r gynulleidfa darged. Pan fydd dylunwyr yn meddwl am eu cynulleidfa darged, maent yn datblygu’r hyn a elwir yn ‘bersona’. Mae hyn yn disgrifio defnyddwyr mewn ffyrdd personol, felly gall tîm cynnyrch ddelweddu'r defnyddwyr wrth iddynt greu cynnyrch digidol ar eu cyfer. • Pwy yw'r gynulleidfa darged? • Ai dim ond un math o berson sy'n gallu ei ddefnyddio 2. ‍Sleidiau 14-15: Ewch trwy'r sleidiau dadansoddi cylch bywyd a Dadansoddiad Cynaliadwyedd 3. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r tudalennau datblygu syniadau, dadansoddi cylch bywyd a dadansoddi cynaliadwyedd yn y Canllaw i Fyfyrwyr i helpu i arwain eu hymchwil a datblygu eu syniad. Prototeip, profi, gwella (2 awr) 1. Dylai timau nawr ddechrau meddwl yn feirniadol am eu syniad. Atgoffwch y myfyrwyr am y camau ‘Dylunio prototeip’ a ‘Dyblygu’ yn y broses meddylfryd dylunio 5D. Nid yw eich syniad cyntaf byth yn cael ei ddefnyddio fel dyluniad terfynol ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth. Atgoffwch y myfyrwyr am bwysigrwydd profi a chael adborth gan y gynulleidfa darged. 2. Dylai myfyrwyr hefyd ddefnyddio'r amser hwn i greu prototeip a'i brofi. Os yw'r syniad busnes yn wasanaeth, dylai myfyrwyr barhau i greu rhywbeth y gallant gael adborth arno, megis lluniadau, ffug ap, disgrifiadau, bwrdd hwyliau, ac ati. 3. Yna dylai timau greu arolwg a chael adborth ar eu syniad. 4. Dylai myfyrwyr ddefnyddio canlyniadau eu profion i wella eu syniad. 5. Dylai myfyrwyr baratoi eu cyflwyniad. Efallai yr hoffent wneud poster neu PowerPoint a chynnwys delweddau a diagramau. Anogwch nhw i feddwl pwy fydd yn gwneud yr esboniad yn ystod eu cyflwyniad. Annogwch bob myfyriwr i gyflwyno a thrafod beth oedd eu rôl yn y prosiect. 9

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association