Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
2 years ago

Datrysiadau Cynaliadwy Pecyn i Fyfyrwyr

  • Text
  • Trwy
  • Busnes
  • Gyfer
  • Fydd
  • Cynnyrch
  • Bydd
  • Syniad
  • Syniadau
  • Cael
  • Eich
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

5D: Proses Meddylfryd

5D: Proses Meddylfryd Dylunio Mae Meddylfryd Dylunio 5D (neu RAPID yn Saesneg) yn ffordd gymharol gyflym a syml o ddylunio rhywbeth gyda (neu heb) dechnoleg. Datgelu Ar ei fwyaf sylfaenol, mae dyluniad yn ddatrysiad i broblem. Felly, ble rydyn ni'n cael problemau sy'n werth eu datrys? Rhaid inni eu datgelu! Dechreuwch trwy benderfynu ar broblem rydych chi am ei datrys. Ceisiwch feddwl am rywbeth penodol (e.e., yn lle meddwl am lygredd, canolbwyntiwch ar fath penodol o lygredd, fel aer, dŵr neu blastig). Nesaf, dysgwch gymaint ag y gallwch chi am y broblem rydych chi wedi'i dewis trwy ymchwilio iddi. Trowch y broblem i mewn i gwestiwn - bydd hyn yn helpu i arwain eich prosiect. Dewisiadau Nawr fod gennych gwestiwn fel eich nod, mae angen i chi gynnig datrysiad i'w ateb. Mewn gwirionedd, mae angen i chi gynnig llawer o ddatrysiadau amgen. Dechreuwch trwy daflu syniadau - cymaint o wahanol syniadau â phosib - syniadau mawr, gwyllt, hurt! Ar ôl i chi orffen taflu syniadau, trafodwch y gwahanol syniadau. A oes unrhyw gysylltiadau rhyngddynt? Weithiau, gall dau syniad gweddol gyfuno i wneud un syniad gwych. Penderfynwch pa syniad i symud ymlaen. Dylunio prototeip Creu model o'ch dyfais. Nid oes rhaid i fodel 'weithio', ond gall fod yn ddefnyddiol iawn dangos sut y byddai rhywbeth yn gweithio. Defnyddiwch ba bynnag ddarnau a deunyddiau sydd ar gael: beiros, pensiliau, papur, cardbord, gwellt, tâp, ac ati. Neu, os nad yw eich arloesedd yn gynnyrch corfforol (e.e., ap neu wasanaeth), lluniwch frasluniau o sut y bydd yn gweithio. Dyblygu Mae adborth parhaus yn ddefnyddiol iawn wrth wella dyluniad. Profwch y prototeip gyda defnyddwyr wrth arsylwi a gofyn cwestiynau. Gofynnwch i brofwyr roi adborth trwy ateb eich cwestiynau parod a rhoi sylwadau a barn gyffredinol. Edrychwch ar eich profion a'r adborth. Beth aeth yn dda? Beth na wnaeth? Pa newidiadau allwch chi eu gwneud i'r prototeip? Datblygu Crewch gynllun i ddiffinio rôl pob aelod o'r tîm a gweithio allan yr adnoddau y bydd eu hangen arnoch i gwblhau eich prosiect. 10

Cynllunio Eich her: lluniwch syniad ar gyfer busnes cychwynnol cynaliadwy sy'n gysylltiedig â'ch cymuned leol Rhaid i chi weithio gyda'ch gilydd fel tîm i: • Cynhyrchu cysyniad terfynol ar gyfer busnes cychwynnol. Creu busnes sydd naill ai'n GYNNYRCH neu’n WASANAETH. • Ysgrifennu a chyflwyno cyflwyniad pum munud yn cynnwys holl aelodau'r tîm. Barod i gychwyn (DATGELU) Dechreuwch trwy feddwl am rai materion amgylcheddol. Ymchwiliwch i effaith newid yn yr hinsawdd a sut y gallai hyn effeithio ar eich cymuned yn y dyfodol. Sut allech chi ddefnyddio gwyddoniaeth neu dechnoleg i ddatrys y problemau hyn? Taflu syniadau (DEWISIADAU) Yn y cyflwyniad gwnaethoch chi archwilio rhai syniadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy. Gallai'r rhain fod yn ysbrydoliaeth i syniad neu gynnyrch newydd i chi ei ddatblygu… • Cynllunio cynnyrch: Meddyliwch am gynhyrchion rydych chi'n eu defnyddio'n rheolaidd. Ydyn nhw'n gyfeillgar i'r amgylchedd? Oes ganddyn nhw lawer o ddeunydd pacio? A ydyn nhw'n dafladwy? A ydynt wedi'u gwneud o ddeunyddiau lleol a chynaliadwy? Os na, a allwch chi feddwl am ddewis arall? A fydd eich cynnyrch yn cael ei wneud gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy? Gallech ymchwilio i sut i ddefnyddio deunyddiau lleol, wedi'u hailgylchu neu eu uwchgylchu. • Gwasanaethau: Meddyliwch pa wasanaethau rydych chi'n eu defnyddio'n rheolaidd. A allech chi feddwl am ffordd i gynnig cludiant sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd? Neu fwyty cynaliadwy nad yw'n cynhyrchu unrhyw wastraff neu sy'n defnyddio cynhwysion lleol yn eu tymor yn unig? Neu ap sy'n helpu pobl i ailddefnyddio pethau neu brynu pethau'n lleol? A allech chi ddarparu ynni a gynhyrchir yn lleol? Canllaw call! Dylech feddwl am gynaliadwyedd ym mhob agwedd o’ch busnes. 11

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association