Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
2 years ago

Datrysiadau Cynaliadwy Pecyn i Fyfyrwyr

  • Text
  • Trwy
  • Busnes
  • Gyfer
  • Fydd
  • Cynnyrch
  • Bydd
  • Syniad
  • Syniadau
  • Cael
  • Eich
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Datblygu Syniadau

Datblygu Syniadau Ymchwiliwch a datblygwch eich cysyniad (DEWISIADAU & PROTOTEIP) Dechreuwch trwy ymchwilio i'r syniad o'ch dewis. Edrychwch i mewn i ba gynhyrchion tebyg sy'n bodoli eisoes a sut maen nhw'n gweithio i gael ysbrydoliaeth. • Sut fyddai'ch cynnyrch neu wasanaeth yn gweithio? • Pwy yw eich cynulleidfa darged? A yw'ch cynnyrch neu wasanaeth yn diwallu eu anghenion? • Meddyliwch am broses gyfan eich busnes. Er enghraifft, os ydych chi'n gwerthu cynnyrch fe allech chi wneud dadansoddiad cylch bywyd i feddwl am gynaliadwyedd o'r creu i'r diwedd defnydd. • Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau y bydd eich busnes yn gynaliadwy? • Bydd angen i chi hefyd wneud penderfyniadau am ddyluniadau corfforol eich cynnyrch. Sut y byddwch chi'n gwneud eich dyluniad yn addas at y diben ac yn ddeniadol i ddefnyddwyr? Cynlluniwch a phrofwch eich cynnyrch neu wasanaeth (PROTOTEIP & DYBLYGU) Nid yw eich syniad cyntaf byth yn cael ei ddefnyddio fel dyluniad terfynol ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth. Wrth ddatblygu eich syniad, mae'n bwysig: • Creu prototeipiau a chynnal profion i ddarganfod a yw'ch syniad yn gweithio. Os mai gwasanaeth yw eich syniad busnes, dylech barhau i greu rhywbeth i gael adborth arno. Fe allech chi: o Greu rhai diagramau neu luniadau o Gwneud ychydig o fframiau gwifren neu fwrdd stori i ffugio ap neu wefan o Dylunio logo ar gyfer eich dyfais o Dylunio deunydd pacio o Meddyl am is-bennawd / arwyddair bachog o Dylunio hysbyseb ar gyfer eich dyfais Oherwydd y gall gymryd mwy na phum argraff i unigolyn gydnabod brand neu neges farchnata benodol, dilynwch y ‘Tri C' ar gyfer negeseuon marchnata: o Clir - Beth yw neges a chynnig eich dyfais? Rhaid iddo fod yn glir a heb ei lenwi â geiriau neu ymadroddion dryslyd. o Cymhellol - Diddorol, perthnasol, amserol a phwysig i'ch cynulleidfa. TIP! o Cyson - Waeth beth fo'r sianel, rhaid i'r neges fod yr un peth. • Mynnwch adborth gan eich cynulleidfa darged: efallai yr hoffech chi greu arolwg neu gynnal cyfweliadau i ddarganfod beth yw barn pobl. • Defnyddiwch eich profion a'ch adborth i ddatrys unrhyw faterion a gwella'ch cynnyrch neu wasanaeth. 12

Dadansoddiad cylch bywyd (ar gyfer cynnyrch) ) DEUNYDDIAU CRAI O ble mae'ch deunyddiau crai yn dod? Ydyn nhw'n gyfeillgar i'r amgylchedd? A ydyn nhw'n ailgylchu neu'n ailgylchadwy? A fyddant yn dod o ffynonellau lleol GWEITHGYNHYRCHU Sut mae'ch cynnyrch yn cael ei wneud? A fydd angen llawer o egni neu ddŵr i'w wneud? GWAREDU Sut y gwaredir eich cynnyrch? A yw'n hawdd ailgylchu? PECYNNU Sut bydd eich cynnyrch yn cael ei becynnu? A ddefnyddiwch ddeunyddiau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd? A fydd llawer o wastraff? DEFNYDDIO Sut fydd eich cynnyrch yn cael ei ddefnyddio? A fydd yn effeithio ar yr amgylchedd? Er enghraifft, a oes angen egni arno? Am ba hyd y bydd yn para? A yw'n hawdd ei atgyweirio? DOSBARTHU Sut y byddwch chi'n dosbarthu'ch cynnyrch? A oes angen ei gadw'n gynnes / oer? Oes rhaid iddo deithio'n bell 13

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association