Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.
Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.
There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.
Cwestiynau hwyluso Defnyddiwch y cwestiynau hyn i hwyluso trafodaeth ynghylch enghreifftiau o ddysgu peirianyddol mewn bywyd bob dydd. Defnyddiwch y cwestiynau trwy gydol y gweithgareddau eraill i atgoffa myfyrwyr beth yw dysgu trwy beirianyddol. Gellir defnyddio'r cwestiynau hyn hefyd i helpu myfyrwyr i fireinio eu syniadau yn ystod y camau ymchwil, cynllunio a dylunio. Enghreifftiau o ddysgu peirianyddol • A allwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau eraill yn eich bywyd rydych chi’n meddwl sy’n defnyddio dysgu peirianyddol? • Beth yw ei bwrpas a phwy sy'n ei ddefnyddio? • Allwch chi ddisgrifio sut mae'n gweithio? • Pa wybodaeth mae'r peiriant neu'r system yn ei defnyddio i wneud penderfyniadau? • A all y peiriant wella ar ei ben ei hun heb gael gwybod beth i'w wneud? A all ‘ddysgu’? • A yw'n ddibynadwy, a yw bob amser yn ei gael yn iawn? Ai dysgu peirianyddol yw e? • A yw hyn yn enghraifft o ddysgu peirianyddol? • Sut ydych chi'n gwybod ei fod yn ddysgu peirianyddol? • Beth yw'r mewnbwn neu'r data a ddefnyddir gan y peiriant? • Beth yw'r algorithm - beth yw pwrpas y peiriant? • Beth yw'r allbwn - beth mae’r peiriant yn ei wneud? • Beth yw'r prawf - sut mae'r peiriant yn gwybod pa mor dda y mae'n gweithio? A oes cyfle i raddio ei berfformiad? • Beth yw'r adborth - sut mae'r peiriant yn gwella ei berfformiad ac yn dysgu o gamgymeriadau? Dod i fyny â syniadau • Sut y bydd hyn yn gwneud eich bywyd yn haws? • A ellid cyfuno'r ddau syniad hynny? • A yw’n ddysgu peirianyddol? • Sut olwg fyddai ar eich syniad? • Allwch chi dynnu llun ohono? • Sut y byddwch chi'n egluro'ch syniad yn glir ac yn syml? Ystyried risg • Ydych chi'n meddwl y bydd pobl eisiau defnyddio'r peiriant neu'r system hon? • Pam/pam ddim? • Pa bryderon a allai fod gan bobl? • Beth pe bai'r data (delweddau ac ati) yn cael ei rannu'n gyhoeddus? • Beth allai fynd o'i le? • Pwy fyddai'n gyfrifol (talu am unrhyw ddifrod) pe bai hynny'n digwydd? • Sut allech chi oresgyn y problemau hyn? 12
Gwobr Darganfod CREST Dylai myfyrwyr gwblhau pasbort Darganfod CREST, i’w gael yma https://my.crestawards.org/. Pan fyddwch yn asesu’r pasbort er mwyn cofrestru am y Wobr, byddwch yn adnabod y sgiliau bydd y myfyrwyr wedi eu gwella trwy gymeryd rhan yn y diwrnod. Paratoi Barod i fwrw mlaen gyda CREST? Cofrestrwch am gyfrif CREST yma: www.crestawards.org/sign-in Crewch brosiect Darganfod Newydd gydag enwau’r myfyrwyr a theitl y prosiect. Gwnewch y prosiect Rydyn ni wedi creu rhai pecynnau hynod ddefnyddiol i'ch helpu chi i ddarparu Diwrnod Darganfod llwyddiannus. Gellir gwneud y gweithgareddau yn y pecynnau hyn mewn un diwrnod neu dros gyfnod o sesiynau byrrach, pa un bynnag sy'n addas i chi. Dylai myfyrwyr dreulio 5 awr ar y prosiect. Gallwch chi lawrlwytho'r Pasbort Darganfod pan fyddwch chi'n creu eich cyfrif CREST trwy ddilyn y ddolen uchod. Sicrhewch eich bod yn cwblhau asesiad risg cyn rhedeg y prosiect: • Oni nodir yn benodol, nid yw CLEAPSS wedi gwirio unrhyw gysylltiadau allanol. • Diogelwch wedi'i wirio ond heb ei dreialu gan CLEAPSS Myfyrio Felly, mae eich myfyrwyr wedi bod yn gweithio'n galed ac wedi cwblhau eu prosiect CREST, ond peidiwch â gadael i hyn fod yn ddiwedd eu dysgu. Ar ddiwedd y prosiect gofynnwch i'r holl fyfyrwyr gwblhau eu Pasbort Darganfod. Dyma gyfle iddyn nhw fyfyrio ar yr holl bethau diddorol maen nhw wedi'u dysgu a'r sgiliau amhrisiadwy maen nhw wedi'u defnyddio. Cofrestrwch eich prosiect am Wobr Darganfod CREST Mae gwaith caled yn haeddu gwobr! Dathlwch ac ardystiwch gyflawniadau eich myfyrwyr trwy gofrestru eu prosiect ar gyfer Gwobr Darganfod CREST. Yn syml 1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif CREST yn www.crestawards.org/sign-in 2. Dewiswch y prosiect a llwythwch sampl o Basbortau myfyrwyr neu dystiolaeth prosiect arall. 3. Gwiriwch fod y myfyrwyr sy'n cymryd rhan wedi cwrdd â phob un o'r meini prawf ar y dudalen asesu athrawon. 4. Yn olaf, cwblhewch y manylion dosbarthu a thalu i archebu'ch tystysgrifau. 5. Llongyfarchiadau ar gwblhau CREST Discovery! Beth nesa? Nid oes angen i'r darganfyddiad gwyddonol ddod i ben yma. Gall myfyrwyr roi cynnig ar y lefel nesaf i fyny - CREST Efydd. Peidiwch â chadw'r holl hwyl i chi'ch hun, anogwch eraill i gymryd rhan mewn prosiectau CREST a rhannu rhyfeddod gwyddoniaeth. Am syniadau am ddim ar sut i ddechrau, ewch i www.crestawards.org 13
Loading...
Loading...
Loading...
British Science Association
Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD
© 2018 British Science Association