Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
3 years ago

Peiriannau’r dyfodol Pecyn athrawon

  • Text
  • Athrawon
  • Pecyn
  • Dyfodol
  • Ddysgu
  • Darganfod
  • Bydd
  • Enghreifftiau
  • Defnyddio
  • Mewn
  • Gyfer
  • Myfyrwyr
  • Peirianyddol
  • Dysgu
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Cynnwys 3 Cefndir 3

Cynnwys 3 Cefndir 3 Deallusrwydd Artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol Dyfodol dysgu peirianyddol Y Gymdeithas Frenhinol Trosolwg 4 Rhestr deunyddiau ac argraffu 5 Amseru – prosiect un-dydd 6 Amseru – prosiect pum-gwers 7 4 Canllaw cyflwyno cam-wrthgam 8 Gweithgaredd cychwynol 10 Enghreifftiau bob dydd o AI 11 Cwestiynau hwyluso 12 Ynglŷn â CREST Darganfod 13 8 2

Cefndir Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld datblygiadau mawr ym maes dysgu peirianyddol - pwnc oedd arfer bod yn rywbeth o'r dyfodol. Mae llawer ohonom bellach yn rhyngweithio â systemau gan ddefnyddio dysgu peirianyddol yn ddyddiol, megis adnabod delwedd a llais ar gyfryngau cymdeithasol a chynorthwywyr personol rhithwir. Deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol Beth yw AI? Mae AI yn derm ymbarél sy'n cyfeirio at gyfres o dechnolegau lle mae systemau cyfrifiadurol wedi'u rhaglennu i arddangos ymddygiad cymhleth, wrth weithredu dan amodau ansicrwydd. Beth yw dysgu peirianyddol? Mae dysgu peirianyddol yn dechnoleg sy'n caniatáu i gyfrifiaduron ddysgu'n uniongyrchol o enghreifftiau a phrofiad ar ffurf data. Mae dulliau traddodiadol o raglennu yn dibynnu ar reolau cod caled, sy'n nodi sut i ddatrys problem, gam wrth gam. Mewn cyferbyniad, gosodir tasg i systemau dysgu peirianyddol, a rhoddir llawer iawn o ddata iddynt i’w ddefnyddio fel enghreifftiau o sut y gellir cyflawni'r dasg hon neu i ganfod patrymau ohono. Yna mae'r system yn dysgu sut orau i gyflawni'r allbwn a ddymunir. Beth yw algorithm? Mae algorithm yn rhestr o reolau y gellir eu dilyn i ddatrys problem neu i wneud penderfyniad. Edrychwch ar yr esboniad syml hwn gan BBC Bitesize https://www.bbc.com/bitesize/articles/z3whpv4 Beth ydyn ni yn ei olygu gan beiriant? Yng nghyd-destun dysgu peirianyddol mae ‘peiriant’ fel arfer yn cyfeirio at gyfrifiadur sy’n dysgu’n uniongyrchol o enghreifftiau a phrofiad ar ffurf data. Beth yw robot? Yng nghyd-destun dysgu peirianyddol ac AI, mae ‘robot’ fel rheol yn cyfeirio at ffurf ymgorfforedig AI; mae robotiaid yn gyfryngau corfforol sy'n gweithredu yn y byd go iawn. Efallai y bydd gan yr amlygiadau corfforol hyn fewnbynnau a galluoedd synhwyraidd sy'n cael eu pweru gan ddysgu peirianyddol. Dyfodol dysgu peirianyddol Yn y dyfodol, mae'n debygol y byddwn yn parhau i weld datblygiadau yng ngalluoedd dysgu peirianyddol, ac mae gan y broses gyffrous hon y potensial i newid y ffordd yr ydym yn defnyddio data mewn ystod o feysydd. Mae offer eisoes yn cael eu datblygu i gefnogi gofal iechyd, plismona, telathrebu, gyrru a ffermio. Beth fydd nesa? Mae'r cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd a fydd yn dilyn y defnydd cynyddol o ddysgu peirianyddol yn sylweddol. Y Gymdeithas Frenhinol Y Gymdeithas Frenhinol yw academi wyddonol annibynnol hynaf y byd sydd mewn bodolaeth barhaus, sy'n ymroddedig i hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth. Mae'r Gymdeithas yn gweithio i gydnabod, hyrwyddo a chefnogi rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth ac i annog datblygiad a defnydd gwyddoniaeth er budd dynoliaeth. Mae prosiect polisi dysgu peirianyddol y Gymdeithas Frenhinol yn ymchwilio i botensial dysgu peirianyddol dros y 5-10 mlynedd nesaf ac yn archwilio sut y gellir datblygu’r dechnoleg hon mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Mae'r Gymdeithas Frenhinol wedi lansio adroddiad yn nodi'r camau sydd eu hangen i gynnal rôl y DU wrth hyrwyddo'r dechnoleg hon wrth sicrhau stiwardiaeth ofalus o'i datblygiad. Mae'r Gymdeithas Frenhinol wedi cefnogi datblygiad yr adnodd Darganfod CREST hwn. 3

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association