Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
3 years ago

Peiriannau’r dyfodol Pecyn athrawon

  • Text
  • Athrawon
  • Pecyn
  • Dyfodol
  • Ddysgu
  • Darganfod
  • Bydd
  • Enghreifftiau
  • Defnyddio
  • Mewn
  • Gyfer
  • Myfyrwyr
  • Peirianyddol
  • Dysgu
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Trosolwg Mae

Trosolwg Mae Peiriannau’r Dyfodol wedi’i ddatblygu'n benodol i fodloni gofynion Gwobr Darganfod CREST. Trwy ymgymryd â'r gweithgaredd a chwblhau Pasbortau Darganfod CREST myfyriol, dylai eich holl fyfyrwyr allu ennill Gwobr, y gallwch chi gofrestru amdani ar y diwedd. Gellir cyflwyno'r adnodd hwn yn yr ysgol yn ystod gwersi, fel gweithgaredd allgyrsiol neu fel gweithgaredd menter. Gellir cwblhau'r prosiect dros 5 gwers neu fel digwyddiad undydd. I gyflwyno'r gweithgareddau hyn nid oes angen gwybodaeth flaenorol o ddysgu peirianyddol. Amcanion dysgu • Myfyrio ar sut maen nhw a'u teuluoedd wedi profi newid technolegol ac ystyried newidiadau technolegol y gallent eu profi yn y dyfodol. • Archwilio pa offer dysgu peirianyddol sydd yna a sut maen nhw'n gweithio. • Deall potensial defnyddio offer dysgu peirianyddol a gallu dysgu peirianyddol, yn benodol gan gyfeirio at offer clyfar. • Defnyddio eu gwybodaeth am AI a dysgu peirianyddol i ddylunio cynnyrch mewn cyd-destun byd go iawn. Yr Her Yn y prosiect 5 awr hwn, bydd myfyrwyr 10- 14 oed yn gweithio mewn timau i ddarganfod mwy am ddysgu peirianyddol a meddwl am syniad i’w ddefnyddio mewn amgylchedd cartref. Bydd myfyrwyr yn: • Ymchwilio i offer dysgu peirianyddol presennol ac archwilio potensial y dechneg hon yn y dyfodol. • Datblygu cysyniad ar gyfer eu offeryn dysgu peirianyddol eu hunain. • Penderfynu pa ddata y byddai angen iddynt ei gasglu a sut y byddent yn dod o hyd i'r data. • Creu cynllun ar gyfer sut y gallai'r peiriant brosesu'r data a sut y byddai hyn yn ddefnyddiol i fodau dynol. • Llunio dyluniad manwl ar gyfer ffurf gorfforol eu offeryn dysgu peirianyddol. • Datblygu syniadau am sut i farchnata eu cynnyrch. 4

Rhestr deunyddiau ac argraffu Gweithgaredd Deunyddiau/argraffu i grŵp o 30 Sleidiau PowerPoint Cyflwyniad a gweithgaredd dechreuol 1x Cwestiynau hwyluso i athrawon (1 i bob oedolyn) 1x Enghreifftiau bob dydd o ddysgu peirianyddol ( 1 i bob oedolyn) 30x Pasbort Darganfod (1 i bob disgybl) Mynediad i’r rhyngrwyd a sain ar gyfer y PowerPoint 1-11 Gweithdai (rhannwch y dosbarth yn 3 grŵp a chylchdrowch rhwng y gweithdai gan ailddefnyddio y rhan fwyaf o’r deunyddiau) Gweithdy 1 (ailddefnyddio deunyddiau) 5x Cyfarwyddiadau Gweithdy 1 (1 i bob pâr) 5x Siart penderfyniad Gweithdy 1 (1 i bob pâr ar A3) 5x Set cardiau penderfyniad Gweithdy 1 (1 i bob pâr) Gweithdy 2: (ailddefnyddio deunyddiau) 5x Cyfarwyddiadau Gweithdy 2 (1 i bob pâr) 5x Cardiau Astudiaeth achos 1: Netflix (1 set i bob pâr) 5x Cardiau Astudiaeth achos 2 a 3 (1 set i bob pâr) 5x Diagram llif NEU Siart llif syml (1 i bob pâr) 5x cluniadur gyda mynediad i’r rhyngrwyd (1 i bob pâr) 10x clustphonau a ‘splitters’ (1 i bob disgybl) Gweithdy 3: (taflenni gwaith i’w defnyddio unwaith) 15x Cyfarwyddiadau/taflen waith Gweithdy 3 (1 i bob pâr) 5x cluniadur gyda mynediad i’r rhyngrwyd (1 i bob pâr) 12-16 Dylunio 10x Rolau tîm (1 i bob grŵp) 10x Datblygu syniad (1 i bob grŵp) 10x Canllaw cynllunio (1 i bob grŵp) 10x Taflenni syniadau (1 i bob grŵp ar A3) 17-19 Ymchwil a Chynllunio Deunyddiau creu poster (papur, peniau lliw) 19 Cyflwyniadau a Diweddglo Posteri sydd wedi eu creu 20-21 5

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association