Discovery challenges (ages 10-14)


Typically completed by 10-14 year olds, students work collaboratively on a five hour project or challenge in self-managed groups. During the project, they use a CREST Discovery passport to record and reflect on their work. Afterwards, students communicate their findings as a group presentation.

Each pack provides teaching guides, kit lists, example timetables and suggested starter activities to help you run your day. Find out more about CREST Discovery Awards.

There are more CREST approved resources that have been developed by our partners and providers specific to your region.


To browse the packs, click the buttons below or scroll down.
Views
3 years ago

Peiriannau’r dyfodol Pecyn myfyrwyr

  • Text
  • Myfyrwyr
  • Pecyn
  • Dyfodol
  • Sydd
  • Cynnyrch
  • Wneud
  • Ymddiried
  • Offeryn
  • Mewn
  • Peirianyddol
  • Dysgu
  • Peiriant
  • Eich
This resource is published under an Attribution - non-commercial - no derivatives 4.0 International creative commons licence (https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/).

Datblygu syniad

Datblygu syniad Ymchwilwch a datblygwch eich cysyniad Dechreuwch trwy ymchwilio i'ch syniadau. Edrychwch i mewn i ba gynhyrchion tebyg sy'n bodoli eisoes a sut maen nhw'n gweithio. • O ble maen nhw'n cael eu data? Pa gyfyngiadau sydd? • Pa allbwn mae eich offeryn yn ei gynhyrchu? • A yw’ch offeryn yn defnyddio dysgu peirianyddol dan oruchwyliaeth neu heb oruchwyliaeth? • Ydych chi'n dysgu’ch offeryn gan ddefnyddio data hyfforddi? O ble mae'r data hwn yn dod? • Sut mae’ch offeryn yn asesu ei berfformiad? • Beth yw ystyriaethau moesegol eich cynnyrch? Beth yw'r peth gwaethaf a allai ddigwydd? • Sut y bydd eich offeryn yn parhau i wella unwaith y bydd y cynnyrch ar y farchnad? • O ble fyddwch chi'n dod o hyd i ddata byw a sut y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i roi adborth ar gyfer yr algorithm (set o reolau y mae eich peiriant yn eu dilyn)? Dyluniwch eich cynnyrch Bydd angen i chi wneud penderfyniadau am ddyluniadau corfforol eich cynnyrch. Meddyliwch a ellid integreiddio'ch syniad i offeryn sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio, neu a fyddai'n gynnyrch cwbl newydd. • A fyddai’n ap ar ffôn clyfar, neu’n rhan o oergell neu beiriant golchi, neu a fyddai’n rhywbeth hollol ar wahân? • At bwy mae'ch cynnyrch wedi'i anelu? Sut y bydd yn ddefnyddiol iddyn nhw? • Beth yw fformat corfforol eich cynnyrch? • Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau y bydd eich offeryn yn ddiogel a bod pobl yn ymddiried ynddo? • Sut y byddwch chi'n gwneud eich dyluniad yn addas at y diben ac yn ddeniadol i ddefnyddwyr? • Sut mae'r dysgu peirianyddol wedi'i integreiddio? A fydd eich cynnyrch yn casglu data? • Beth yw'r rhesymeg y tu ôl i'ch dyluniad? Marchnata Edrychwch ar yr hyn sy'n bodoli eisoes, meddyliwch am yr hyn sy'n gwneud eich cynnyrch yn unigryw. • Penderfynwch ar gynulleidfa darged • Sut y byddwch chi'n eu cyrraedd? • Sut y byddwch chi'n eu darbwyllo bod angen y cynnyrch hwn arnyn nhw? • Ysgrifennwch froliant 2 funud i egluro a gwerthu syniad eich cynnyrch. TIP! Cyflwyniad Paratowch gyflwyniad ar eich syniad gan ddefnyddio'r deunyddiau gwneud poster. Dylai eich cyflwyniad fod yn 5 munud o hyd, a dylai pob aelod o'r tîm gael cyfle i siarad. 12

Rolau tîm COFIWCH: Byddwch chi i gyd yn gweithio ar wahanol rannau o'r prosiect, ond mae teitl eich swydd yn dangos pa ran o'r prosiect y byddwch chi'n ei arwain. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod y peth hwnnw'n cael ei wneud, ond dylai pawb ar eich tîm gael mewnbwn yn yr holl dasgau. Rheolwr Prosiect Arweinydd Meddalwedd Yn sicrhau bod y tîm cyfan a'r prosiect ar y trywydd iawn Y meddyliau creadigol y tu ôl i'ch rhaglen - yn gyfrifol am greu siart llif ar gyfer eich cynnyrch, fel y rhai o'r gweithdy ‘Dysgu Peirianyddol nawr’. Arweinydd Ymchwil Yn gyfrifol am feddwl am ble a sut i ddod o hyd i'r setiau swmpus o ddata y bydd eu hangen arnoch chi. Cefnogaeth ymchwil i aelodau eraill y tîm. Arweinydd Risg Yn gyfrifol am feddwl am risg yn erbyn defnyddioldeb eich cynnyrch a sut i reoli hynny. Sut y byddwch chi'n helpu pobl i ymddiried yn eich cynnyrch? Mae angen i chi nodi'r risgiau dan sylw a sicrhau y bydd eich offeryn dysgu peirianyddol yn ddiogel ac yn ddiduedd. Arweinydd Dylunio Arweinydd Marchnata Yn gyfrifol am ddyluniad corfforol y cynnyrch. Yn gyfrifol am ddatblygu cynllun marchnata a meddwl i bwy fyddai'r offeryn hwn yn ddefnyddiol, sut a pham. 13

Discovery

Managed by:

Supported by:

British Science Association

Wellcome Wolfson Building,
165 Queen's Gate
London
SW7 5HD

© 2018 British Science Association